Cymorth Syllwr Map

Mae Syllwr Mapiau Hanesyddol Lefelau Byw ayn caniatáu i ddefnyddwyr bori trwy amrywiaeth o fapiau hanesyddol ochr yn ochr â’r data lidar 1m ar gyfer y tirlun modern. Daw’r mapiau digidol o amrywiaeth o ffynonellau. Gallwch ddarganfod mwy am y casgliad o fapiau yn ‘Gwybodaeth am y Mapiau’. Disgrifir isod rai nodweddion gwych y syllwr, gyda’r gobaith y bydd yn gymorth i chi allu cael y gorau o’r mapiau.

Dangos Haenau

Gallwch newid yr haenau gweladwy gan ddefnyddio’r ddewislen haenau yng nghornel chwith uchaf y map. Ar sgriniau bach, dangosir y ddewislen fel eicon haen. Cliciwch i weld y ddewislen gyfan.

      

Mae pob haen map yn gorwedd uwchben ei gilydd mewn trefn gronolegol, felly os dewiswch fap argraffiad cyntaf yr AO (1881-2) a Mapiau Llys y Carthffosydd (1830-31) ar yr un pryd, fe welwch argraffiad cyntaf yr AO yn unig. Ticiwch y blwch wrth ymyl unrhyw haen i’w ychwanegu at y map.

Syllwr Twll Clo

I weld dwy haen ar yr un pryd, defnyddiwch yr eicon Twll Clo Gwyrdd ger unrhyw fap yn y ddewislen haenau i’w symud i syllwr twll clo. Gellir symud y syllwr hwn o amgylch y map a newid ei faint trwy glicio a llusgo’r gornel werdd.

     

Newid Map Cefndir

Mae syllwr y mapiau’n defnyddio mapiau Bing i ddarparu delweddau cefndir. Gallwch newid y cefndir gan ddefnyddio’r ddewislen yn y gornel dde uchaf.

  

Chwilio am Le

You can search for a place using a name, postcode, national grid reference, or easting/northing with the search tool at the bottom of the layer menu.

Gallwch chwilio am le gan ddefnyddio enw, cod post, cyfeirnod grid cenedlaethol, neu ddwyreiniad/gogleddiad gyda’r teclyn chwilio ar waelod y ddewislen haenau.
Cliciwch yr eicon a nodwch eich term chwilio, dewiswch un ai enw, cod post, cyfeirnod grid cenedlaethol, neu ddwyreiniad/gogleddiad, yna cliciwch y tic gwyrdd.

      

CCliciwch ar eich lleoliad cywir o’r canlyniadau chwilio i chwyddo i’r lleoliad hwnnw yn awtomatig.    

Mesur Pellter

Gallwch fesur pellter gan ddefnyddio’r teclyn mesur ar waelod y ddewislen haenau. Cliciwch i ddechrau tynnu’ch llinell i fesur, cliciwch i newid cyfeiriad a chliciwch ddwywaith i ddiweddu’r lluniad (a chau’r teclyn). Bydd y pellter yn ymddangos ar y sgrin.

    

Darganfod Cyfesuryn

Gallwch ddarganfod cyfesuryn drwy ddefnyddio’r teclyn cipio cyfesuryn ar waelod y ddewislen haenau. Cliciwch unrhyw le ar y map i gael y cyfeirnod grid cenedlaethol a’r dwyreiniad/gogleddiad.

    

Scroll to top