Gwybodaeth am y Mapiau

Mae Syllwr Mapiau Hanesyddol Lefelau Byw / Living Levels yn caniatáu i’r defnyddiwr bori trwy amrywiaeth o fapiau hanesyddol ochr yn ochr â’r data lidar 1m ar gyfer y tirlun modern. Isod gwelir manylion pob haen o fap, yn nhrefn amser o’r hynaf i’r mwyaf newydd.

Mapiau Llys Carthffosydd 1830-31

Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig Archifau Gwent

Sefydlwyd Comisiynwyr Carthffosydd yn yr 17eg ganrif i orfodi yn gyfreithiol y cynnal a chadw’r morgloddiau a’r brif system ddraenio a adnabyddir heddiw fel Gwastadeddau Gwent. Roedd perchnogion tir ar y Gwastadeddau yn gyfrifol am gynnal darnau penodol o’r prif ffosydd neu rewynau yn ogystal â hydoedd penodol o’r morgloddiau. Roedd yn rhaid i’r perchnogion hefyd dalu treth flynyddol i dalu cost rhedeg Llys y Carthffosydd a allai alw unrhyw un a fethodd yn ei ddyletswyddau i gyfrif, a hefyd ymgymryd â gwaith cyfalaf y tu hwnt i gyfrifoldeb unrhyw unigolyn.

I gyflawni’r dyletswyddau hyn, roedd angen i’r Comisiynwyr wybod pwy oedd yn berchen ar beth yn ogystal â chyfrifoldebau pob un. Yn yr 17eg a’r 18fed ganrif gwnaed hyn trwy gymryd arolygon ysgrifenedig manwl, ond yn 1827, penderfynodd y Comisiynwyr gomisiynu cyfres gyflawn o fapiau ar raddfa fawr o bob plwyf ar y Gwastadeddau. Y syrfëwr llwyddiannus oedd Thomas T. Morris o Gasnewydd. Cymerodd dair blynedd iddo arolygu’r ardal gyfan a chyflwyno albwm o 16 o fapiau o Wastadeddau Cil-y-Coed yn 1830, ac 8 map o Wastadeddau Llansanffraid Gwynllŵg yn 1831 (Archifau Gwent cyf rhifau, D.1365.1 & 2) gyda dau lyfr cyfatebol o restru cyfeiriadau pwy oedd yn berchen ar bob darn o dir (Archifau Gwent, D.2282.1 a 2).

Nid oedd cynsail ar gyfer ansawdd, manylder a helaethder mapiau Morris yng Nghymru cyn i fapiau cyntaf yr Arolwg Ordnans gael eu cyhoeddi. Maent yn darparu cyfoeth o wybodaeth fanwl am Wastadeddau Gwent, rhannau helaeth sydd bellach wedi diflannu oherwydd datblygiadau. Mae’r mapiau hyn yn fan cychwyn delfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes yr ardal unigryw hon.

Mae’r cofnodion a’r mapiau gwreiddiol yn cael eu cadw yn Archifau Gwent (cyf D1365/1, D2282/1, D1365/2 a D2282/2) a gyda chaniatâd, wedi eu hatgynhyrchu ar gyfer y prosiect. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn trawsgrifio a geo-gyfeirio cofnodion Llys y Carthffosydd i’w gwneud yn fwy hygyrch. Os hoffech chi gymryd rhan yna cysylltwch â’r tîm..


Argraffiad Cyntaf Map Arolwg Ordnans 1881-2

Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Archifau Gwent

6 modfedd i’r filltir (1:10,560) oedd Argraffiad Cyntaf yr Arolwg Ordnans: Cyfres Sir. Arolygwyd ef yn 1881-2, a’i gyhoeddi yn 1887.

Mae’r map yn cyd-fynd yn agos â chyfrifiad 1881 ac felly’n adnodd gwerthfawr ar gyfer dealltwriaeth o safle phoblogaeth y cyfnod yma.


Argraffiad Cyntaf Map Arolwg Ordnans 1899-1900

Cafodd map 6 modfedd i’r filltir (1:10,560) Arolwg Ordnans: Cyfres Sir ei hadolygu ar gyfer Gwastadeddau Gwent yn 1899-1900. Yn y syllwr mapiau, darperir mapio Ail Argraffiad yr AO gan Lyfrgell Genedlaethol yr Alban ar bedair graddfa:

  • Arolwg Ordnans, Prydain Fawr, 1.016 modfedd i 16 milltir / 1:1 miliwn, cyhoeddwyd 1905.
  • Arolwg Ordnans Chwarter-Modfedd Cymru a Lloegr / Yr Alban 1:253,440, cyhoeddwyd tua 1900-1906.
  • Arolwg Ordnans Un Fodfedd i’r Filltir Cymru a Lloegr (Cyfres Newydd Ddiwygiedig) 1:63,360, 1885-1903.
  • Arolwg Ordnans Chwe Modfedd i’r Filltir Cymru a Lloegr / Yr Alban, 1:10,560, 1888-1913.

Model Tir lidar 1m Data Cyfansawdd (Tirwedd Lleol)

Mae arolwg Lidar yn darparu model 3D manwl iawn o arwyneb y ddaear lle gellir ei brosesu a’i ddelweddu at lawer o wahanol ddibenion. Yng Nghymru a Lloegr crëwyd mwyafrif o ddata archif lidar gan Asiantaeth yr Amgylchedd at ddibenion mapio llifogydd. Gallwch ddarllen mwy am greu data lidar ar Fap Stori Data Agored Arolwg Geomatig Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae data archif lidar bellach ar gael am ddim trwy Geo-Borth Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar gyfer y syllwr hwn, mae’r model tir (gydag adeiladau, coed, gwrychoedd ac ati wedi’u dileu) wedi’i brosesu’n ddwy ddelwedd:

  • Model Tirwedd Lleol gyda radiws 8m i gyfoethogi meicro-topograffeg yn ymwneud â defnydd tir o’r gorffennol, tebyg i gefnen a rhych, rhewynau i ddraenio, llethrau a ffosydd. Gallwch ddarllen mwy am fodelu tirwedd lleol yma.
  • Model sy’n arlliwio llethrau (‘hillshade’) wedi ei gyfuno i gyfoethogi’r macro-topograffeg neu newidiadau mawr yn uchder y tir. Cyfunir tri ohonynt o wahanol onglau haul (0°, 67.5° a 135°) i mewn i un ddelwedd. Gallwch ddarllen mwy am y math yma o fodelu yma.

Bydd y data lidar yn sail i brosiect trawsgrifio a chofnodi maes gwirfoddol yn 2020. Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan.

Scroll to top